Theatr a fo ben bid Bontnewydd

Hafan > Y Gymuned > Theatr a fo ben bid Bontnewydd

Bwriad y clwb ydi rhoi blas i ddisgyblion Ysgol Bontnewydd ar berfformio. Rydym yn chwilio am gyfleoedd i'r criw berfformio ac yn paratoi cynhyrchiad yn flynyddol ar gyfer Eisteddfod yr Urdd. Mae'r plant yn cael cyfle i ddyfeisio eu golygfeydd eu hunain, dysgu sgiliau actio a chyfarwyddo, mynegi eu hunain yn greadigol a chael llawer o hwyl wrth wneud!

Mae hi'n wych gweld y plant yn datblygu eu sgiliau ac yn magu hyder.

Mae Cwmni Theatr A Fo Ben Bid Bontnewydd yn cael ei gynnal i ddisgyblion blynyddoedd 3 i 6 ar nos Lun 5.30 - 19.00 yn ystod y tymor. Cost y clwb ydi £30 y tymor.