Tudalen Gartref Ysgol Bontnewydd
Croeso i Wefan Ysgol Bontnewydd
Mae Ysgol Bontnewydd yn ysgol unigryw ac mae ynddi ddysgwyr arbennig iawn. Mae nhw’n arbennig oherwydd eu hanwyldeb, a’u gallu naturiol i fod yn ddiolchgar am y profiadau a’r gofal a gant yn yr ysgol. Mae’r ysgol yn ymfalchio yn y berthynas gyda’r teuluoedd, y gymuned ysgol a’r gymuned ehangach. Mae’r berthynas a’r cyd-weithio yn sicrhau bod ein dysgwyr yn ffynnu.
Mae’n disgyblion a’r staff yn llenwi’r adeilad gyda’u hapusrwydd; achos mae i Ysgol Bontnewydd, ethos arbennig iawn. Mawr obeithiwn y byddwch yn gweld ein gwefan yn ddefnyddiol.